Mantais

Beth yw Mantais?

Ymgyrch sy’n hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros Gymru gyfan yw Mantais. Mae Mantais yn bresennol yn y gwyliau cenedlaethol, gan gynnwys Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol a’r Sioe Fawr yn Llanelwedd. Mae tîm Mantais hefyd yn mynychu ffeiriau UCAS ac yn trefnu cyfres o ffeiriau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. Cofiwch alw draw!

Mantais ar y Radio

Yr actor Huw Davies o Abertawe sy'n annog darpar fyfyrwyr i astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol, mewn ymgyrch radio genedlaethol yr wythnos hon. Gwrandewch ar yr hysbyseb.

Cylchlythyr Mantais

Rhifyn Gwanwyn / Haf o gylchlythyr Mantais. Opsiynau astudio, pigion y sîn roc, cyfweliadau a straeon, cewch wybod y cyfan! Dyma fe!

Archif

Rhifyn cyntaf o gylchlythyr newydd sbon Mantais. Opsiynau astudio, pigion y sîn roc, cyfweliadau a straeon, cewch wybod y cyfan! Dyma Fe!