Barn Cyflogwyr

Cyfreithiwr yng nghwmni Cyfreithiol Hugh James

Darllen
ioan-prydderch

'Mae gallu cyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn sgìl fanteisiol iawn i unrhyw gyfreithiwr sy'n gweithio yng Nghymru ei chael. 'Rydw i'n gweithio i gwmni cyfreithiol Hugh James yng Nghaerdydd, a gellir canfod enghreifftiau o'r pwysigrwydd sydd bellach yn cael ei roi i ddwyieithrwydd drwy'r cwmni hwnnw i gyd, oherwydd 'rydym yn gwneud cytundebau, achosion llys a chyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond yn fwy na hynny, Cymraeg yw iaith gyntaf nifer fawr o'n cleientiaid, ac felly – er mwyn sicrhau fy mod yn gallu eu cadw nhw'n hapus – mae'n holl bwysig fy mod i yn gallu siarad gyda nhw yn hyderus ac yn gywir yn eu mamiaith'.

Ioan Prydderch

Cyfreithiwr o dan hyfforddiant gyda chwmni Capital Law

Darllen
guto-llewelyn
'Mae'r Gymraeg yn bwysig ac yn berthnasol iawn i unrhyw un sy'n gweithio ym maes y Gyfraith yng Nghymru. Yn wir, er bod cleientiaid Capital Law wedi'u lleoli ar draws y Deyrnas Unedig ac – yn gynyddol – ar draws Ewrop, mae'n bwysig ein bod yn adfer ac yn ymfalchïo yn ein Cymreictod, oherwydd mae'r Gymraeg bellach yn cael ei chydnabod fel ased sydd yn werth i unrhyw gyfreithiwr ei chael, ac mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn un o'r ffactorau sy'n helpu i wahaniaethu ein cwmni oddi wrth ei gystadleuwyr'.

Guto Llewelyn

Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru

Darllen
'Rydym yn gweithredu yn gwbl ddwyieithog yng Nghyngor Gofal Cymru. Gallwn ymateb yn syth yn y ddwy iaith, ac felly mae'n ffordd effeithiol o weithio. Mewn meysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol mae'n holl bwysig bod digon o weithwyr sy'n gallu gweithio'n hyderus yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg ar gael. Mae 65% o boblogaeth y byd yn ddwyieithog a pheth anarferol yn hytrach na chyffredin yw gwledydd uniaith, felly bachwch ar y cyfle i ddilyn cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, oherwydd bydd gwneud hynny yn eich paratoi ar gyfer gallu gweithio yn hyderus yn y ddwy iaith, ac yn eich gwneud yn adnodd gwerth chweil i lawer o gyflogwyr Cymru'.

Rhian Huws Williams

Doctor yn Ysbyty Neville Hall, y Fenni

Darllen
emyr-huws

'Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn fedr ddefnyddiol i unrhyw un sy'n bwriadu gweithio yn y maes meddygol yng Nghymru ei chael. Mae'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol gyda chleifion yn rhan elfennol bwysig o waith unrhyw ddoctor – wrth iddo / iddi fynd ati i ddadansoddi problemau iechyd ac argymell triniaeth addas – ac yn amlach na pheidio, mae'n well gan gleifion drafod eu anhwylderau drwy gyfrwng eu mamiaith. Yn amlwg, Cymraeg yw iaith gyntaf nifer o'r cleifion y byddaf i yn ymdrin â hwy, ac felly mae nhw bob amser yn falch fy mod i yn gallu siarad yr iaith honno hefyd. Mae'n dda bod ymgyrch Mantais yn pwysleisio'r ffaith bod gallu siarad a thrafod yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg yn ased ddefnyddiol i raddedigion ei chael wrth iddynt fynd ati i geisio canfod swyddi, oherwydd mae mwy a mwy o gwmnïau bellach yn edrych am weithwyr sydd yn berchen ar sgiliau ychwanegol fel dwyieithrwydd'.

Dr Emyr Huws

Cyfarwyddwr Cwmni ATOM PR, Caernarfon

Darllen
elliw

'Fe wnes i astudio gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, ac mae'r profiad o wneud hynny wedi bod o gymorth mawr i mi wrth i mi fynd ati i gychwyn a rhedeg fy musnes fy hun. Mae cwmni cysylltiadau cyhoeddus ATOM yn gweithredu yn gwbl ddwyieithog ac mae ein cleientiaid yn gwerthfawrogi gallu dewis cael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy fod yn ddwyieithog, mae ATOM yn gallu cynnig rhywbeth gwahanol i lawer o gwmnïau eraill sydd yn yr un maes a ni, ac yn aml iawn, mae hynny'n fantais fawr wrth i ni fynd ati i farchnata ac ennill gwaith newydd.

Elliw Ellis-Davies

Mantais astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Pam astudio'r Gwyddorau?

Darllen
O ffiseg i fiofeddygaeth ac o amaethyddiaeth i fioleg môr mae llu o gyfleoedd ar gael i fyfyrwyr drin a thrafod elfennau o'u cyrsiau gradd gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydych am sicrhau bod gennych chi'r sgiliau perthnasol wrth gamu i fyd gwaith ac yn edrych am gwrs sydd yn darparu cyfleoedd cyffrous, beth am astudio'r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwella eich opsiynau gyrfaol?

O waith labordy, gwaith maes a theithiau tramor mae digon o gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr sy'n astudio'r gwyddorau'n Gymraeg. Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hyblyg. Gallwch astudio elfennau o'ch cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Modiwlau yw'r gair cywir ar yr elfennau hyn, ac mae modd eu hastudio hyd yn oed os na wnaethoch chi astudio'r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod eich cwrs lefel A. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gwbl ddwyieithog wrth edrych am swyddi yn y dyfodol. 

Mae sawl cwmni gwyddonol yn rhyngwladol, gyda changhennau ar draws y byd. Ond beth bynnag yw eich swydd, a ble bynnag y byddwch yn gweithio, mae'n debygol y bydd galw am eich gallu dwyieithog ac am eich profiad o ddiwylliannau eraill.

Fe fydd yr adran hon yn datblygu dros y misoedd nesaf, felly cofiwch ymweld â'r safle eto yn fuan.

Pam astudio'r Gymraeg?

Darllen
Mae astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd mewn prifysgol yn agor pob math o ddrysau i chi. Mae'n bwnc deinamig ac amrywiol sy'n rhoi'r cyfle i chi ddatblygu nifer o sgiliau angenrheidiol mewn byd gwaith, ac yn eich paratoi at ystod eang o yrfaoedd.

Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o gynllun ysgoloriaethau newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bydd holl adrannau ac ysgolion y Gymraeg yn y gwahanol sefydliadau yn gwneud eu gorau i sicrhau darpariaeth gynhwysfawr ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.

Er bod y Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, mae'r Gymraeg yn gyffrous o gyfoes gan fod dwyieithrwydd yn hanfodol ar gyfer y Gymru ohoni. Mae'r gwahanol sefydliadau yn ceisio sicrhau eich bod yn dewis cynllun gradd o safon academaidd uchel, ond hefyd fod y Gymraeg yn berthnasol i'ch ffordd o fyw a'ch gyrfa yn y dyfodol. Yn fwy na dim – byddant yn eich annog i gael mwynhad o uchafbwyntiau'r diwylliant Cymraeg cyfoethog sydd mor allweddol i hunaniaeth y genedl.

Fe fydd yr adran hon yn datblygu dros y misoedd nesaf felly cofiwch ymweld â'r safle eto yn fuan.

Barn yr Enwogion

Griff Lynch

Darllen
griff-lynch
'Mae fy Nghymraeg i yn dipyn cyfoethocach na fy Saesneg i, ac felly 'dwi'n teimlo yn dipyn mwy cyfforddus yn trafod pynciau academaidd cymhleth yn fy mamiaith! 'Roedd rhannau helaeth o fy nghwrs gradd i yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac 'roedd gallu astudio yn bennaf yn yr iaith honno yn fy siwtio i i'r dim!'

Griff Lynch, Prif Leisydd Yr Ods a Chyflwynydd ar S4C ac C2 Radio Cymru 

Iolo Williams

Darllen
iolo-williams
'Dwi'n credu y dylech chi fanteisio ar y cyfleoedd i astudio pynciau gwyddonol ac amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Mae fy sgiliau dwyieithog i wedi bod o fudd mawr i mi yn fy ngyrfa ac wedi galluogi i mi ddarlledu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar y teledu a'r radio, ac ar draws y byd i gyd'.        

Iolo Williams, Cyflwynydd rhaglenni natur ar deledu a radio

Mari Grug

Darllen
mari-gruf

'Mae'r gallu i siarad mwy nac un iaith yn hyderus yn ased sy'n gallu agor amryw o ddrysau i unigolion wrth iddynt fynd ati i chwilio am waith. Erbyn hyn mae cyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt yn rhoi mwy a mwy o bwysigrwydd ar y gallu i fod yn ddwyieithog, ac mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol hefyd yn gallu bod yn fuddiol i fywyd cymdeithasol person'.

Mari Grug, Cyflwynwraig ar S4C

Fflur Dafydd

Darllen
fflur-dafydd

'Mae'n holl bwysig bod y dewis i allu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr. Fe wnes i astudio Saesneg fel pwnc, ond 'roedd sawl un o fy nhiwtoriaid yn siarad Cymraeg, ac mae cael y ddwy iaith o'ch cwmpas yn cyfoethogi'r profiad addysgiadol yn ddi-os'.

Fflur Dafydd, Cerddor ac Awdures

Ryan Kift

Darllen
ryan-kift

'Fe wnes i astudio tua 70% o fy nghwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, a 'dwi'n falch iawn fy mod i wedi gallu gwneud hynny. Fe fyswn i wedi gallu dewis astudio'r cwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Saesneg, ond oherwydd bod y dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn llawer llai na'r dosbarthiadau Saesneg, 'roeddwn i'n teimlo bod y myfyrwyr Cymraeg yn cael tipyn mwy o sylw unigol gan y darlithwyr a'r tiwtoriaid. Mewn ffordd felly, dwi'n teimlo fy mod i wedi cael gwell safon o ddysgu oherwydd i mi benderfynu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, mae gallu siarad Cymraeg yn hyderus yn sgìl fanteisiol iawn i'w chael os ydych chi'n gweithio yn y cyfryngau yng Nghymru. 'Dwi'n bendant yn ffeindio ei fod o'n help pan fyddai'n gwneud cyfweliadau ar gyfer S4C a Radio Cymru beth bynnag!'.

Ryan Kift, Cerddor a Chynhyrchydd Ffilmiau

Ynyr ac Eurig Roberts, Brigyn

Darllen
brigyn

'Cyn mynd ymlaen i'r brifysgol – yn Sheffield ac yn yr Athrofa yng Nghaerdydd – cwblhaodd y ddau ohonom ni gwrs cyfrwng Cymraeg gwych mewn 'Sylfaen Celf a Dylunio' yng Ngholeg Menai, Bangor. Ochr yn ochr â pherfformio gyda'r band, 'rydym ni'n dau bellach yn ddylunwyr graffeg hunan-gyflogedig hefyd, ac 'rydym yn gweithio i ystod eang o gwmnïau drwy Gymru. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu cyfathrebu'n Gymraeg a Saesneg yn werthfawr i ni pan mae'n dod i'r maes gwaith a delio efo cleientiaid gwahanol'.

Ynyr ac Eurig Roberts, Brigyn

Mantais
Tocyn ITunes gwerth £25 i'r 1000fed aelod myfyriwr @colegcymraeg - Ymunwch nawr! http://t.co/0zwOLmJY

0 diwrnod yn ôl
Mynd i'r Brifysgol yn mis Medi 2012? Ydy eich cwrs yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant y @colegcymraeg ? http://t.co/OPFU7rBf

0 diwrnod yn ôl