Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig

Cynllun Ysgoloriaeth Israddedig

Darllen
Mae Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu £100,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gradd – naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pob math o wahanol bynciau: 

 O Ddrama i Ddaearyddiaeth, 
 O Wyddor Chwaraeon i Wleidyddiaeth Ryngwladol, 
 O Ffiseg i Ffrangeg, 
 O Gerddoriaeth i'r Gymraeg...

... beth bynnag sy'n mynd a'ch bryd... mae arian ar gael! 

Yn wir, gallwch ennill hyd at £1000 y flwyddyn (neu hyd at £3000 erbyn i chi gwblhau eich cwrs) am wneud rhywfaint o'ch astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Darperir 150 o ysgoloriaethau bob blwyddyn, ac mae'r gwobrau hyn wedi eu rhannu rhwng dau is-gynllun, sef yr is-gynllun Prif Ysgoloriaethau, a'r is-gynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant.
Er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth mae'n rhaid i chi ymaelodi gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir gwneud hynny yn yr adran Ymaelodi ar y wefan hon. Bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth ar y ffurflen gais er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth.
Ceir mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau a chyfle i ddarllen hanesion rhai o ddeiliaid ysgoloriaethau 2011-12 wrth ddilyn y linc yma - Atodiad Ysgoloriaethau

Prif Ysgoloriaethau 2012/13

Darllen
     

Os ydych chi’n bwriadu astudio o leiaf dwy ran o dair (neu o leiaf 80 credyd y flwyddyn) o’ch cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch ymgeisio am un o’n Prif Ysgoloriaethau, sydd werth £1000 y flwyddyn (neu hyd at £3000 dros gyfnod eich cwrs gradd). Bydd 50 o’r ysgoloriaethau hyn ar gael ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dechrau astudio cyrsiau gradd o bob math – mewn prifysgolion led led Cymru – ym mis Medi 2012.

O’r Gyfraith i’r Gymraeg, o Ddiwinyddiaeth i Ddylunio Cynnyrch, o Hanes Cymru i Astudiaethau Ffilm a Theledu – mae bron i 300 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys i gael eu cynnwys yn yn rhan o’r cynllun hwn.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am Brif Ysgoloriaethau 2012-13 wedi mynd heibio erbyn hyn. Bydd holl ganllawiau ymgeisio ar gyfer 2013/14 yn ymddangos ar y wefan hon ym mis Medi 2012.

Er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth mae rhaid i chi fod yn aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae modd ymaelodi ar y dudalen Ymaelodi. Bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth ar y ffurflen gais.

       

Ysgoloriaethau Cymhelliant 2012/13

Darllen
     

£500 y flwyddyn (neu £1500 dros dair blynedd) yw gwerth y math yma o ysgoloriaeth, sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf traean (neu o leiaf 40 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd 100 o Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael yn 2012, ac – yn wahanol i’r Prif Ysgoloriaethau – dim ond myfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd penodol yn un o’r naw maes academaidd canlynol fydd yn gymwys i ymgeisio amdanynt:

Gwyddorau’r Amgylchedd a Daearyddiaeth  
Busnes a Rheolaeth
Gwaith Cymdeithasol
Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon
Y Gyfraith
Gwyddorau Iechyd
Ieithoedd Modern Ewropeaidd
Mathemateg a Ffiseg
Seicoleg
Cemeg

Mae’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant 2012-13 wedi mynd heibio erbyn hyn. Bydd holl ganllawiau ymgeisio ar gyfer 2013/14 yn ymddangos ym Medi 2012.

Er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth mae'n rhaid i chi fod yn aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gallwch ymaelodi trwy lenwi ffurflen ar y dudalen Ymaelodi

       

Telerau ac Amodau 2012/13

Darllen

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r telerau ac amodau ar gyfer Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012-13. (Diweddarwyd 23 Ebrill 2012)

Cwestiynau a Ofynir yn Aml

Darllen
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun hwn – neu os yr hoffech gael sgwrs gyffredinol cyn mynd ati i lenwi eich ffurflen gais – mae croeso i chi gysylltu gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, naill ai drwy ffonio 0844 809 4717, neu drwy yrru e-bost at gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk. 

Ond – er cyfleustra – mae'r ddogfen isod yn cynnwys atebion i'r ymholiadau mwyaf cyffredin yr ydym yn eu derbyn ynglŷn â'r Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig.

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr

Ysgoloriaethau Gradd Meistr

Darllen
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cyrsiau gradd meistr – naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg.
£1,500 yw gwerth pob un o'r ysgoloriaethau yma, ac maent ar gael i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio cyrsiau lefel M penodol, sy'n cynnwys o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhan 1 (h.y. o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth sy'n cael ei ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau neu diwtorialau Cymraeg).
Ynghyd ag astudio cyfran o'r cwrs ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, disgwylir i ddeiliaid yr Ysgoloriaethau Gradd Meistr lunio eu traethodau estynedig (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny) yn y Gymraeg hefyd.
Er mwyn gwneud cais am Ysgoloriaeth Meistr, mae'n rhaid i chi ymaelodi gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae modd gwneud hynny, fel myfyriwr, ar wefan y Porth.
Bydd mwy o wybodaeth ynglyn â sut i wneud cais yn ymddangos ar y wefan hon yn fuan. Am fwy o wybodaeth yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu gyda ni - gwybodaeth@colegcymraeg.ac.ukneu ffoniwch ni ar 0844 809 4717. Bydd canllawiau ymgeisio ar gyfer Medi 2012 yn ymddangos ar y wefan hon ym mis Mai eleni.

Telerau ac Amodau

Darllen
     Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r telerau ac amodau ar gyfer Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr 2011-12.
       
Mantais
Mae gan y Coleg Cymraeg dudalen newydd ar facebook: http://t.co/zDvL1omc

0 diwrnod yn ôl
Wyt ti 'di anfon dy ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant @colegcymraeg eto? Dyddiad cau dydd Gwener! Brysia! http://t.co/OAww4UOb

15 diwrnod yn ôl