Darpar Fyfyrwyr
Darllen
Os ydych chi'n un o'r nifer cynyddol o ddarpar fyfyrwyr sydd am astudio eich cwrs gradd - naill ai'n gyfan gwbl, neu'n rhannol - trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys i dderbyn nawdd o hyd at £3000 trwy gynllun ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae holl fanylion y cynllun ysgoloriaethau yma wedi eu cynnwys yn ein hadran ar gyllid i fyfyrwyr, ac mae yno hefyd wybodaeth bellach ynglŷn â sut i fynd ati i ymgeisio ar eu cyfer, os ydych chi yn bwriadu mynd i'r brifysgol ym mis Medi 2012. Mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Prif Ysgoloriaethau 2012 ar 15 Ionawr 2012, a 4 Mai 2012 yw dyddiad cau derbyn ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant.
Cofiwch bod rhaid i chi ymaelodi â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth ac mae modd gwneud hynny yn yr adran ymaelodi.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, gallwch ein e-bostio ni ar gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk, neu ffoniwch ni ar 0844 809 4717.
Myfyrwyr Presennol
Darllen
Os ydych chi'n astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd ac yn ystyried mynd ymlaen i ddilyn cwrs ôl-raddedig, beth am ymgeisio am un o Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Mae'r Coleg yn cynnig ugain o ysgoloriaethau'r flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cyrsiau gradd meistr yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. £1500 yw gwerth pob un o'r ysgoloriaethau yma, ac maent ar gael i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio cyrsiau lefel M penodol.
Am restr o'r cyrsiau cymwys, ynghyd â chanllawiau ymgeisio a manylion am ddyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n bwriadu dechrau astudio cyrsiau meistr ym mis Medi 2011, ewch i ein hadran ar gyllid i fyfyrwyr.
Rhieni
Cefnogaeth Ariannol
Darllen
Yn sgil dyfodiad Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gall myfyrwyr ennill nawdd o hyd at £3000 drwy fynd ati i astudio cyfran o'u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir canfod mwy o fanylion ynglŷn â'r cynllun yn ein hadran ar gyllid i fyfyrwyr.
Athrawon
Darllen
Mae Mantais ar gael i ymweld ag ysgolion er mwyn rhannu gwybodaeth am y cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Os hoffech drefnu ymweliad ar gyfer eich ysgol chi, cysylltwch â Mantais ar 0844 809 4717 neu e-bostiwch gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk
Mae manylion llawn am gynllun ysgoloriaethau israddedig newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (gan gynnwys copïau o ffurflenni cais, a manylion cysylltiedig – ynghyd â sut i fynd ati i ymgeisio ar gyfer Medi 2012) wedi eu cynnwys yn ein hadran ar gyllid i fyfyrwyr.