Beth yw Mantais?

Darllen
mantais

Ymgyrch farchnata yw Mantais, sy'n rhan o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac sy'n hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Mae Mantais yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau, sy'n cynnwys digwyddiadau yn y gwyliau cenedlaethol, mewn ysgolion uwchradd, ac o fewn ffeiriau rhanbarthol UCAS. Cewch wybod mwy am y cyfleoedd astudio drwy ymweld â chwilotydd cyrsiau Mantais. Dyma'r unig le canolog lle gellir chwilio am gyrsiau cyfrwng Cymraeg fesul maes neu sefydliad.

Mae Mantais ar hyn o bryd yn hyrwyddo cynllun ysgoloriaethau newydd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau gwerth hyd at £3000 i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn cychwyn ar eu cyrsiau prifysgol yn 2012.  Mae dros 100 o ddeiliaid ysgoloriaethau cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dechrau ar eu hastudiaethau mewn Prifysgolion ar draws y wlad yn Medi 2011. Am wybodaeth am yr ysgoloriaethau sydd ar gael ar gyfer 2012, ewch i'r adran Cyllid i Fyfyrwyr.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darllen
llyfrgell3
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Mae'r Coleg yn sefydliad cenedlaethol newydd sydd yn chwarae rhan bwysig mewn cynllunio, cynnal a datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae'r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r prifysgolion yng Nghymru ac yn cyllido nifer o brosiectau a fydd yn cyfoethogi profiadau astudio myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg wrth ymweld a gwefan y Coleg.

Digwyddiadau

Darllen
banner mantais

Bydd Mantais yn ymweld â ysgolion ar draws Cymru yn 2011-12 yn bennaf i hyrwyddo Cynllun Ysgoloriaethau’r Coleg. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill nawdd o hyd at £3000 drwy fynd ati i astudio cyfran o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Os hoffech i ni ymweld â’ch ysgol chi cysylltwch â ni ar (0845) 800 7375 / gwybodaeth@mantais.ac.uk

 

 

Mantais
Penblwydd hapus @Yr_Urdd yn 90 oed! Mwynhewch y dathlu!

0 diwrnod yn ôl
Mae'r holl wybodaeth ar wefan Mantais: http://t.co/OAww4UOb

1 diwrnod yn ôl