Ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darllen
ciosg

Mae y Coleg Cymraeg Cenedlaethol nawr yn cynnig system aelodaeth newydd sydd yn caniatáu i bobl sydd â diddordeb yng gwaith y Coleg i ymaelodi â’r sefydliad yn rhad ac am ddim.  Bydd aelodau yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd a fydd yn codi o gynlluniau’r Coleg.

Cynigir pedwar categori o aelodaeth, ar gyfer:

Darpar fyfyrwyr

Myfyrwyr presennol

Staff o fewn y Sector Addysg Uwch

Cyfeillion

Er mwyn ymgeisio am Ysgoloriaeth Israddedig ar gyfer 2012/13 mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er mwyn ymaelodi mae'n rhaid llenwi cais yn yr adran Ymaelodi ar y wefan hon.

Ffeiriau UCAS

Darllen

Cynhelir Seminar Mantais: Gwybodaeth am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i flwyddyn 12 a’r athrawon yn ffeiriau UCAS eleni. Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs a gwybodaeth bellach ar stondin y Coleg.

Cynhelir y ffeiriau yn y lleoliadau canlynol:

Caerdydd ar 19 Mawrth

Wrecsam ar 27 Mawrth

Caerfyrddin ar 17 Ebrill

Bangor ar 20 Mehefin

Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darllen

Mae cynllun ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig hyd at £3,000 dros dair blynedd i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd – naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol – trwy gyfrwng y Gymraeg.  Ceir dau fath o ysgoloriaeth israddedig sef y Brif Ysgoloriaeth (gwerth £1,000 y flwyddyn) a’r Ysgoloriaeth Cymhelliant (gwerth £500 y flwyddyn). 

 

Mae’r ffurflenni cais nawr ar y wefan yn yr adran Cyllid i Fyfyrwyr.  Dyddiad cau derbyn ceisiadau yr Ysgoloriaeth Cymhelliant yw 4 Mai 2012.  Mae'r dyddiad cau ar gyfer Prif Ysgoloriaeth (2012/13) wedi mynd heibio. Rhaid ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ymgeisio am ysgoloriaeth a gellir gwneud hynny yn yr adran Ymaelodi.

 

 

Mantais
Tocyn ITunes gwerth £25 i'r 1000fed aelod myfyriwr @colegcymraeg - Ymunwch nawr! http://t.co/0zwOLmJY

0 diwrnod yn ôl
Mynd i'r Brifysgol yn mis Medi 2012? Ydy eich cwrs yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant y @colegcymraeg ? http://t.co/OPFU7rBf

0 diwrnod yn ôl