Manteision
Mwy o ddewis
Erbyn hyn mae'n bosib astudio pob math o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, o newyddiaduraeth i seicoleg, i’r gyfraith a’r amgylchedd...
Dosbarthiadau llai a mwy o sylw
Yn y darlithiau a’r seminarau cyfrwng Cymraeg, mae’r grwpiau’n llawer llai, ac mae hynny’n golygu bod myfyrwyr yn cael mwy o sylw.
Safon uchel o addysg
Mewn pynciau mor amrywiol â gwyddoniaeth a gwleidyddiaeth mae darlithwyr ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn aml yn arbenigwyr byd-eang yn eu meysydd. Felly, mae safon yr addysg gyda’r ucha’ posib.
Gwell opsiynau gyrfa
Mae mwy a mwy o gyflogwyr nawr, yng Nghymru a thu hwnt, yn ystyried y Gymraeg fel sgil ychwanegol yn y gweithle. Felly, gallai astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn y brifysgol fod yn fantais fawr wrth chwilio am waith.