Brigyn

Newyddion

Camp y Cymoedd!

Bu timau o ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion uwchradd y de ddwyrain yn brwydro a’i gilydd am deitl Camp y Cymoedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, pan gynhaliwyd dau gwis ar stondin Mantais. Bu cynrychiolwyr o ysgolion Plasmawr, Gwynllyw a Chwm Rhymni yn arddangos eu gwybodaeth gyffredinol yn y cwis cyntaf – a gynhaliwyd ar fore Llun, 2il Awst – cyn i dimau o ysgolion Glantaf, Bro Morgannwg a’r Cymer fynd ben-ben a’i gilydd yn yr ail ornest yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw. Keiron, Cerys a Jake o Ysgol Gwynllyw oedd enillwyr cwis y bore, a thîm Bro Morgannwg – sef Efan, Jacob ac Illtyd – oedd yn fuddugol yn yr ail ornest. Derbyniodd aelodau’r ddau dîm buddugol gardiau iTunes.

Mantais yn Eisteddfod Genedlaethol 2010

Bydd presenoldeb gan Mantais yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni. Bydd na ystod eang o ddigwyddiadau fel cwis 'Camp y Cymoedd' i ysgolion yr ardal, cyfle i ddarpar fyfyrwyr holi am sut i wneud cais yn y Gymraeg i brifysgolion a cholegau drwy Ymgeisio, system ar-lein UCAS, perfformiadau byw gan grwpiau fel Candelas a Nos Sadwrn Bach, gweithdy cerdd, a chyfle i glywed mwy am y ddau gynllun noddi, AmNawdd a CyfNawdd. Mae'r rhaglen lawn ar gael yma

Mantais yn noddi un o gystadlaethau CFfI Cymru

Fel rhan o arlwy o ddigwyddiadau dros yr Haf, bydd Mantais yn noddi’r gystadleuaeth 'Rhowch Gynnig Arni' yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni. Mae’r gystadleuaeth yn enghraifft o addysg anffurfiol lle bydd aelodau’r mudiad o bob cwr o Gymru yn cael y cyfle i arddangos a datblygu eu sgiliau creadigol.

“Fe fydd cynrychiolwyr o’r bob un o’r 12 Ffederasiwn Sirol yn Nghymru yn cystadlu yn y rownd derfynol yma gyda nifer fwy yn teithio ar draws Gymru i gefnogi’r cystadleuwyr. Bydd cystadlu brwd a hwyliog yn amlwg yn y gystadleuaeth sy’n uchafbwynt ar gyfer nifer o aelodau a Chlybiau ar draws Gymru,” meddai Tim John, Cadeirydd CFfI Cymru.

Dewch draw i weld y Cyflwynydd S4/C Mari Grug yn cyhoeddi'r enillydd am 3.45pm ddydd Iau, 22 Gorffennaf ar lwyfan y CFfI.

Myfyrwyr llwyddiannus y Cynlluniau Noddi

Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr llwyddiannus sydd wedi cael ei derbyn ar gynllun noddi AmNawdd a CyfNawdd. Cynllun sy’n cynnig nawdd o £1,500 a phrofiad gwaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb i astudio a gweithio yn y maes amgylcheddol yw AmNawdd. Mae cynllun CyfNawdd yn cynnig nawdd o hyd at £1,500 a phrofiad gwaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb i astudio a gweithio ym maes y gyfraith. Bydd y myfyrwyr yn dechrau ar eu cwrs gradd ym mis Medi 2010. Mae gwybodaeth bellach am y cynlluniau noddi o dan yr adran 'arian' ar y wefan.